David John GeraintJONESYn dawel yng nghartref Hafan Deg, Llanbed ar ddydd Mawrth 12fed o Ebrill hunodd Geraint, Pantawel, Cribyn, priod annwyl y diweddar Linda, tad ofalus Brian, Elfyn, Anwen a Stephen, tad yng nghyfraith hoffus Eiddwen, Gwenda, Alan a Nia, dad-cu a hen dad-cu tyner. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Silin Cribyn dydd Sadwrn 23ain o Ebrill am 2 o'r gloch. Ymholiadau pellach cysylltwch ag Alan Edwards, Trefnwr Angladdau, Awel Enlli, Dihewyd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7PN. Ffon: 01570 470289
Keep me informed of updates